Sut allwch chi gael mynediad atom?

 

Mae croeso i chwi gysylltu a ni yn y Gymraeg a’r Saesneg.

 

Mae 6 ffordd o wneud apwyntiad gyda ni:

Ffoniwch ein tim derbynfa 08:00 I 18:30 unrhyw ddiwrnod ac eithrio gwylian banc ar 01654 702 224.

Dod i’r drws ffrynt a’i wneud yn bersonol gyda’r derbynnydd.

Ein E-bostio ar ein cyfeiriad e-bost pwrpasol newydd (sylwer bod hwn ar gyfer apwyntiadau nad ydynt yn rhai brys yn unig) contact.w96011@wales.nhs.uk.

Anfon neges destun atom (mae’r gwasanaeth hwn ar gyfer cleifion nad ydynt yn gallu siarad ar y ffôn neu nad oes ganddynt fynediad at ddulliau digidol eraill), mwy o wybodaeth  ar gael drwy’r e-bost uchod neu’r dderbynfa.

 

Neges DM dros Facebook – oherwydd rheolau diogelu data, ni allwn wneud apwyntiadau na delio â meddyginiaethau ac ati drwy ein tudalen Facebook, ond os byddwch yn gadael eich manylion drwy Messenger gallwn eich ffonio’n ôl. Sylwer, fodd bynnag, nad ydym yn gallu gwirio Facebook drwy’r amser felly mae angen i hyn fod ar gyfer ceisiadau ffônio yn ôl nad ydynt yn rhai brys.

Gallwch hefyd lenwi’r ffurflen gais am apwyntiad ar ein gwefan ar gyfer apwyntiadau nad ydynt yn rhai brys.

Gofynnwn i unrhyw geisiadau am ymweliadau cartref  ein cyrraedd cyn 12pm fel y gellir neilltuo digon o amser iddynt.

 

Ym mis Tachwedd 2020, gwnaethom gyflwyno system ffôn newydd sbon. Manteision y system hon yw:

Llinellau ffôn diderfyn sy’n seiliedig ar system Gwmwl fel bod yr  holl alwadau yn cael eu pentyrru ac fyddwch chi byth yn clywed y dôn brysur annifyr honno! Byddwch bob amser yn cael gwybod ble rydych yn y ciw a gall rheolwyr IBDd weld yr amseroedd aros ‘byw’. Bydd hyn yn galluogi mwy o’r tîm i ateb galwadau, os oes angen/ar gael.

Ceir system ffonio’n ôl awtomatig, sy’n golygu y gallwch chi roi’r ffôn lawr a bydd y system yn eich galw’n ôl pan fyddwch chi’r cyntaf yn y ciw. Yna bydd y system yn eich cysylltu’n syth â ni – cofiwch ateb eich ffôn pan fydd yn canu’n ôl!

Mae’r system wedi’i chysylltu â’n cofnod clinigol felly dylem wybod ar unwaith gyda phwy yr ydym yn siarad.

Mae gan bob galwad opsiwn Cymraeg a Saesneg a fydd yn dweud wrth y tîm eich dewis iaith cyn i ni ateb y ffôn (byddwn bob amser yn ceisio cysylltu â siaradwr Cymraeg pan ddewisir y Gymraeg)

 

Apwyntiadau Brys neu Arferol?

Mae apwyntiadau ar gael 6 wythnos ymlaen llaw.

Byddwn bob amser yn cynnig apwyntiad ar yr un diwrnod ar gyfer argyfwng brys. Mae  yma feddyg teulu ar alwad ar y safle drwy’r dydd bob dydd. Os nad yw’r dderbynfa’n siŵr a oes angen apwyntiad ar yr un diwrnod, mae gan y dderbynfa fynediad drws agored i’r meddyg teulu ar alwad er mwyn iddynt hwy wneud y penderfyniad. Nid penderfyniad a wneir gan dderbynnydd yw hwn! Mae gan ein clinigwyr amrywiaeth o arbenigeddau, galluoedd a gwybodaeth felly bydd y dderbynfa yn medru dod o hyd i’r hyn sydd fwyaf priodol ar eich cyfer. Mae gennym hefyd gymysgedd o ddynion a merched yn ein timau clinigol meddygon teulu a rhai nad ydynt yn feddygon teulu.

Bydd apwyntiadau ar yr un diwrnod bob amser yn cael eu cynnig  ar gyfer Plant ac Oedolion sydd ag angen clinigol. Fe fydd y derbynnydd yn gofyn am ddisgrifiad byr, ond dim ond i sicrhau ein bod yn dod o hyd i’r person mwyaf priodol i ddelio â’ch cais. Rydym yn dilyn gofynion Llywodraeth Cymru sydd yn nodi efallai nad meddyg teulu yw’r person gorau bob amser i gefnogi cais am apwyntiad, ond fe sicrhawn fod y claf yn cael ei g/weld gan y person cywir, o fewn yr amser cywir ac yn y lle cywir, er nad efallai o fewn ein practis fydd hynny.

 

Apwyntiadau arferol – ein nod yw cynnig apwyntiad i chi o fewn 4-6 wythnos i’r cais.

 

I ddechrau, bydd pob apwyntiad yn ymgynghoriad dros y ffôn (ac eithrio apwyntiadau nyrsys ac ati). Nid brysbennu yw hyn. Ymgynghoriad yw hwn lle byddwch yn siarad â clinigydd hyfforddedig. Gallai ymgynghoriad dros y ffôn fod dros y ffôn, neu efallai y bydd angen anfon lluniau i mewn, neu gall fod yn ymgynghoriad fideo. Os gofynnir am luniau, gwneir hyn drwy’r dderbynfa wrth wneud  yr apwyntiad. Nid yw’r dderbynfa’n edrych ar unrhyw luniau ond yn eu harbed yn syth i’ch nodiadau er mwyn i’r clinigwr eu gweld cyn eich apwyntiad. Mae pob apwyntiad yn 15 munud o hyd. Ar hyn o bryd, penderfyniad clinigol am gleifion ydyw os byddwch angen apwyntiad wyneb yn wyneb. Ni all y dderbynfa benderfynu os dylid rhoi apwyntiad wyneb yn wyneb ar y cychwyn heb fewnbwn clinigol. Gofynnir I chwi gefnogi y drefn. Bydd hyn yn sicrhau mai dim ond y cleifion hynny y mae angen iddynt gael eu gweld yn gorfforol gan glinigwr sy’n gwneud hynny o fewn yr amserlen gywir.

O fis Ebrill 2022, ein nod yw caniatáu i gleifion drefnu apwyntiadau wyneb yn wyneb fel mater o drefn eto gyda chlinigwyr nad ydynt yn feddyg teulu, ac rydym bellach yn y broses o sicrhau bod ein cyfleusterau aros yn bodloni’r safonau rheoli heintiau gofynnol er mwyn caniatáu mwy o bobl i mewn i’n hadeilad.

 

Gellir gofyn am Bresgripsiynau Amlroddadwy:

Rhoi’r cais papur yn ein blwch post pwrpasol

Trwy  contact.w96011@wales.nhs.uk

Trwy Fy Iechyd Ar-lein (e-bostiwch contact.w96011@wales.nhs.uk am wybodaeth)

Os oes gan unrhyw un unrhyw bryderon neu sylwadau, e-bostiwch y cyfeiriad uchod. Bydd y Rheolwr Practis a’r tîm rheoli bob amser yn ceisio cefnogi ein cleifion cystal ag y gallwn.

 

Mrs Lucy S Cockram FCCA

Rheolwr Paractis – Iechyd Bro Ddyfi

 

Ffôn: 01654702224