Wyddoch chi bod fferyllwyr yn weithwyr gofal iechyd proffesiynol cymwysedig sydd â’r wybodaeth glinigol i gynnig y cymorth sydd ei angen arnoch chi? Gallant asesu eich mân anhwylderau ac argymell y driniaeth orau – p’un a yw’n feddyginiaethau dros y cownter, ychydig ddyddiau o orffwys neu cynnig ychydig o gysur.

Mae’r mwyafrif o fferyllfeydd ar agor tan yn hwyr ac ar benwythnosau. Nid oes angen apwyntiad arnoch – dim ond cerdded i mewn. Yn aml mae ganddynt ystafell ymgynghori breifat lle gallwch drafod materion gyda staff y fferyllfa yn gyfrinachol.

Dilynwch y ddolen isod i ddysgu’n union beth all eich fferyllfa leol gynnig i chi:

https://www.nhs.uk/service-search/find-a-pharmacy/

Help gyda’ch Meddyginiaethau

Gall fferyllwyr ateb eich cwestiynau ynglŷn a meddyginiaethau presgripsiwn a meddyginiaethau dros y cownter.

Mae pob fferyllfa’n darparu’r gwasanaethau canlynol:

  • dosbarthu presgripsiynau’r GIG
  • mynediad i’r gwasanaeth presgripsiwn amlroddadwy (gyda chytundeb eich meddyg teulu)
  • cyflenwad brys o feddyginiaeth (yn amodol ar benderfyniad y fferyllydd)
  • meddyginiaethau di-bresgripsiwn fel paracetamol
  • cael gwared ar feddyginiaethau diangen neu wedi dyddio
  • cyngor ar sut i drin mân bryderon iechyd a byw’n iach

Presgripsiynau Amlroddadwy

Os rhoir presgripsiwn am yr un feddyginiaeth i chi yn rheolaidd, efallai y bydd eich meddyg teulu yn cynnig presgripsiwn y gellir ei ailadrodd sawl gwaith.

Rydych chi’n dewis pa fferyllfa y byddai’n orau gennych gasglu eich presgripsiynau ohoni a bydd eich meddyg teulu yn anfon eich presgripsiwn yno.

Byddwch wedyn yn medru casglu eich presgripsiwn amlroddadwy yn syth o fferyllfa o’ch dewis hyd nes bod angen i’ch meddyg adolygu’ch triniaeth.

Yna byddwch chi’n gallu casglu’ch meddyginiaethau amlroddadwy yn uniongyrchol o’r fferyllfa rydych  wedi’i dewis hyd nes bod angen i’ch meddyg adolygu’ch triniaeth. Mae hyn yn golygu llai o deithiau i’r meddyg teulu er mwyn nôl presgripsiwn arall yn unig.

Os ydych chi’n defnyddio’r gwasanaeth hwn, bydd angen i chi gysylltu â’r fferyllfa o’ch dewis ychydig ddyddiau cyn i chi redeg allan o feddyginiaeth i ofyn am bresgripsiwn newydd a darganfod pryd y bydd yn barod.

Fel rhan o’r gwasanaeth hwn, bydd y fferyllydd yn gofyn a ydych chi’n cael unrhyw broblemau neu sgîl-effeithiau gyda’ch meddyginiaethau presgripsiwn a, lle bo’n briodol, trafod hyn gyda chi a’ch meddyg teulu.

Mân Anhwylderau

Gall fferyllfeydd roi cyngor ar driniaeth ar nifer o gyflyrau cyffredin a mân anafiadau, megis:

  • poenau
  • dolur gwddf
  • peswch
  • annwyd           
  • y ffliw
  • pigyn clust
  • llid y bledren (cystitis)
  • brechau ar y croen
  • torri dannedd (teething)
  •  llygad goch

Os ydych chi am brynu meddyginiaeth dros y cownter, gall y fferyllydd a’u tîm eich helpu chi i ddewis.

Ni fydd gwrthfiotigau ar gael dros y cownter i drin mân gyflyrau.

Gwasanaethau fferyllol eraill

Gwasanaethau eraill a allai fod ar gael yn eich fferyllfa leol:

  • efallai y cewch eich cyfeirio at fferyllfa i gael cyngor ar ôl ffonio GIG 111
  • atal cenhedlu brys
  • cyngor ar ddefnyddio mewnanadlydd asthma
  • sgrinio a thrin clamydia
  • cymorth ar roi’r gorau i ysmygu
  • profion pwysedd gwaed, colesterol a siwgr yn y gwaed
  • gwasanaeth camddefnyddio sylweddau, gan gynnwys cynlluniau cyfnewid nodwyddau a chwistrell
  • gwasanaeth rheoli pwysau
  • brechu rhag y ffliw
  • adolygiadau defnyddio meddyginiaeth
  • cael gwared ar hen feddyginiaethau

Felly, i gloi…

Mae gan fferyllfeydd weithwyr gofal iechyd proffesiynol hyfforddedig iawn. Efallai mai ymweld â’ch fferyllfa leol fydd orau i chi wrth ddelio â rhai sefyllfaoedd meddygol. Gallant helpu gyda llawer iawn o anhwylderau, triniaethau a sefyllfaoedd gwahanol.

Cyn ceisio trefnu apwyntiad gyda’ch meddygfa, gofynnwch i’ch hun – a fyddai’n gyflymach ac yn well ymweld a’ch fferyllydd? Os rhywbeth, gallai arbed apwyntiad meddyg teulu i rywun sydd wir ei angen.

Dolenni Defnyddiol: