Cais i gau Meddygfa Cemmaes Road- Cyfathrebu’r Wasg

Nôd iechyd Dyffryn Dyfi yw darparu a chynnal gwasanaethau gofal sylfaenol lleol o safon i’r cyhoedd yn y ddwy feddygfa – Canolfan Iechyd Machynlleth a Meddygfa Glantwymyn.

Fodd bynnag, yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae nifer o heriau anghynaliadwy ac anrhagweladwy wedi arwain at newidiadau annisgwyl i’r arfer. Mae’r heriau hyn wedi arwain at leihau ar oriau agor a gwasanaethau Cangen Cemmaes Road o Iechyd Bro Ddyfi.

Er mwyn cynnal lefelau uchel o ofal i gleifion, ac er mwyn atal gwasanaethau gofal sylfaenol lleol yr ardal rhag chwalu’n llwyr yn y tymor hir, yn anffodus mae Iechyd Bro Ddyfi wedi cyflwyno cais i gau meddygfa Cemmaes Road.  Os bydd y cais i Fwrdd Iechyd Powys yn llwyddiannus, bydd Canolfan Iechyd Machynlleth yn cydgrynhoi’r gwasanaethau hyn gan sicrhau bod gwasanaethau gofal sylfaenol lleol yn cael eu gwella a’u diogelu ar gyfer y dyfodol.

Ym mis Chwefror, bydd y Bwrdd Iechyd yn ysgrifennu at bob claf sydd wedi’i gofrestru gyda’r feddygfa, yn ogystal ag amrywiaeth eang o randdeiliaid lleol, i ddisgrifio’r heriau y mae iechyd Dyffryn Dyfi yn eu hwynebu, i amlinellu opsiynau ar gyfer y dyfodol, ac i geisio barn.

Rydym hefyd yn anelu at rannu diweddariadau rheolaidd dros yr wythnosau nesaf gan dîm ymgysylltu Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (powys.engagement@wales.nhs.uk).