Er mwyn helpu chi a’ch cyd-gleifion, mae Iechyd Bro Dyfi  wastad yn chwilio am ffyrdd o wella gofal sylfaenol.

Rydym yn falch o gyhoeddi menter gyffrous newydd, sef  treialu Gwasanaeth Casglu Presgripsiynau. Bydd y gwasanaeth rhad ac am ddim hwn yn helpu’r cleifion hynny a hoffai gasglu eu presgripsiynau mewn lleoliad mwy cyfleus gyda’r nod o wneud eich bywydau ychydig yn haws.

Y newyddion da yw, nid yn unig y byddwch yn gallu casglu ail-bresgripsiynau, ond byddwch hefyd yn gallu cyflwyno eich presgripsiynau.

I Grynhoi:

  • Y Cyfnod Treialu: Rhwng 6 Awst 2019 a 31 Hydref 2019
  • Diwrnodau Casglu ac Amser:
    • Dydd Mawrth 10am – 12pm
    • Dydd Iau 3pm – 5pm
  • Man Casglu: Canolfan Gymunedol Glantwymyn, Ffordd Cemaes, Machynlleth, SY20 8LX

Cofrestru

Os hoffech chi ddefnyddio’r gwasanaeth rhad ac am ddim hwn, bydd angen i chi ddarllen y telerau ac amodau a chofrestru eich diddordeb.

Mae’n bwysig eich bod yn darllen a deall y termau ac amodau!

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y Gwasanaeth Casglu Presgripsiynau, yna e-bostiwch ni ar  contact@DyfiValleyHealth.org  neu siarad ag aelod o’r tîm.