Gwneud Apwyntiad

Gwneud Apwyntiad

Gallwch wneud apwyntiad hefo unrhyw un o’r staff clinigol 4-6 wythnos ymlaen llaw. Gallwch wneud hyn trwy alw mewn, dros y ffôn neu drwy ein system apwyntiadau ar-lein. Os nad ydych yn gwybod sut i gael mynediad i’r system ar-lein bydd un o’n staff derbynfa ond yn rhy falch i’ch helpu i gofrestru.

Am ffyrdd erill o wneud apwyntiad, cliciwch yma

Apwyntiadau Brys

Byddwn yn rhyddhau nifer cyfyngedig o apwyntiadau brys pob bore.Mae rhain ar gyfer pobl sydd ag anghenion meddygol brys, NID ar gyfer ymholiadau iechyd pob-dydd. 

Defnyddiwch y ffurflen hon ar gyfer apwyntiadau arferol yn unig. Os ydych chi’n teimlo bod angen apwyntiad brys arnoch chi, ffoniwch ni ar 01654 702224.

Appointment Request Form

Appointment Type

 

Galwadau ffôn

Os nad oes apwyntiad ar gael, ond yr ydych angen cyngor meddygol y diwrnod hwnnw gallwn drefnu i glinigwr eich ffonio.

Ymweliadau Cartref

Mae pob amser yn well gennym eich gweld yn y feddygfa ble mae gennym gyfleusterau llawer gwell ar gyfer eich archwilio a’ch trin. Mae ymweliadau cartref ar gyfer y cleifion hynny na allant ddod i’r feddygfa oherwydd eu salwch neu eu hanabledd.

Os oes angen ymweliad cartref arnoch yna rhaid ffonio’r dderbynfa cyn 10 y bore. Fel arfer bydd clinigwr yn eich ffonio i benderfynu a ydych angen cyngor dros y ffôn, ymweliad gan nyrs neu feddyg neu ymweld a’r ysbyty.

Ymholiadau Cyfeirio

Os nad ydych wedi clywed gan yr ysbyty o fewn 6 wythnos, cysylltwch yn uniongyrchol a’r ysbyty/adran. Os yw hyn yn aflwyddiannus, cysylltwch a ni a mi wnawn ymchwilio ymhellach ac adrodd yn ôl i chi.

Gwarchodwr

Mae croeso i chwi ddod a rhywun gyda chi i unrhyw apwyntiad. Os yw’n well gennych, gallwn gynnig aelod o staff i weithredu fel gwarchodwr/wraig yn ystod eich ymgynghoriad.

Iechyd Bro Ddyfi

Mae Iechyd Bro Ddyfi wedi ymrwymo i ddarparu gofal iechyd gorau posibl i'r gymuned.

© 2021 Dyfi Valley Health

RCGP  NHS Wales