Mae cynlluniau i wella iechyd a gofal cymdeithasol drwy ddatblygu ‘hyb’ cymunedol newydd ym Machynlleth ar y gweill yn dilyn cymeradwyaeth cyllid cyfalaf gwerth £15 miliwn gan Lywodraeth Cymru.

Bydd y datblygiadau yn Ysbyty Cymunedol Bro Ddyfi yn sefydlu Ysbyty Bro Ddyfi fel cyfleuster iechyd a lles integredig i’r gymuned leol. Yn ogystal ag integreiddio gwasanaethau gofal sylfaenol ar safle’r ysbyty, bydd y cyfleuster hefyd yn darparu canolfan ar gyfer timau iechyd, yr awdurdod lleol a’r trydydd sector, gan annog gwell integreiddio ac effeithlonrwydd a chefnogi lles, atal a hybu iechyd.

Mae’r rhaglen hefyd yn cynnwys gwaith hanfodol i wella adeiladwaith yr adeilad. Adeiladwyd Ysbyty Bro Ddyfi yn wreiddiol yn 1860 fel Wyrcws Machynlleth. Yn ddiweddarach daeth yn Ysbyty Coffa Brenin Edward VII ac yna’n ganolfan i drin afiechydon y frest cyn ei rôl bresennol. Felly, mae gan yr adeilad arwyddocâd hanesyddol arbennig i’r gymuned leol.

Dywedodd Gweinidog Iechyd Llywodraeth Cymru Eluned Morgan: “Bydd y buddsoddiad hwn yn sicrhau gwelliannau mawr eu hangen i’r ysbyty, a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl Dyffryn Dyfi. “Bydd yn helpu i ddarparu mwy o ofal yn nes at adref, sy’n un o’n blaenoriaethau allweddol ar gyfer gofal cleifion, a bydd yn ail-lunio gwasanaethau iechyd a lles cymunedol ar gyfer y dyfodol.”

Dywedodd Hayley Thomas, Cyfarwyddwr Cynllunio a Perfformiad, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys: “Bydd y buddsoddiad cyfalaf hwn gwerth £15 miliwn gan Lywodraeth Cymru yn darparu canolfan i bartneriaid iechyd, yr awdurdod lleol a’r sector gwirfoddol gydweithio mewn ffyrdd mwy integredig byth i ganolbwyntio ar les, cynnig cymorth a chefnogaeth gynnar, a darparu gofal cydgysylltiedig. Mae hwn yn gam pwysig tuag at gyflawni Strategaeth Iechyd a Gofal Powys, a ddatblygwyd mewn partneriaeth â Chyngor Sir Powys a phobl a chymunedau Powys.”

Ychwanegodd y tri phartner meddygon teulu o Iechyd Bro Ddyfi: “Drwy ddod â’r practis meddygon teulu i ganol yr Hyb Lles Cymunedol byddwn yn gallu gweithio hyd yn oed yn agosach gyda chydweithwyr yn y GIG, gofal cymdeithasol a’r trydydd sector i ddarparu gofal a lles gwirioneddol gydgysylltiedig i gleifion lleol.”

Wrth i’r cyfyngiadau coronafeirws leddfu, edrychwn ymlaen at drefnu digwyddiadau a gweithgareddau gyda’r cymunedau i greu datblygiad cyffrous a all chwarae ei ran lawn yn iechyd a lles yr ardal. Bydd rhagor o wybodaeth ar gael ar ein gwefan yn https://pthb.nhs.wales/find/broddyfi

Disgwylir i’r rhaglen waith gyffredinol gymryd tua 18 mis i’w chwblhau, gyda’r cyfleuster newydd ar gael erbyn dechrau 2023.

Cymeradwywyd cyllid cyfalaf ar gyfer datblygu Ysbyty Cymunedol Bro Ddyfi gan y Gweinidog Iechyd blaenorol, Vaughan Gething.