Manteision yfed mwy o ddŵr

Wyddoch chwi mai  dŵr yw 60% o’ch corff? Heb fod yn rhy wyddonol, mae’r cyfansoddyn H2O cyffredin yn gwneud llawer mwy i’ch corff nag y meddyliwch. Mae’n helpu i gludo maetholion o gwmpas y corff, rheoli tymheredd, treulio bwyd, cynyddu lefelau egni a llawer mwy!

Pam felly, fod cynifer fawr ohonom ddim yn yfed digon ohono?

Gobeithio y bydd blog mis yma yn eich helpu i ddeall y manteision enfawr yfed mwy o ddŵr…

Dadhydradu

I ddechrau, beth yw dadhydradu? The Benefit of Drinking Water

Byddwch yn dechrau teimlo effaith dadhydradu petaech chi onyn colli cyn lleied â 2% o ddŵr o’ch corff. Rhai symptomau cyffredin yw cur pen, teimlo’n sychedig, teimlo’n benysgafn, yr wrin yn felyn iawn a pasio ond ychydig o ddŵr.

Ymysg symptomau eraill, gall dadhydradu hefyd arwain at newid mewn rheolaeth tymheredd y corff, cymhelliant is, cynnydd mewn blinder a gwneud unrhyw fath o ymarfer corff yn llawer anoddach (wedi’r cyfan mae 80% o’r cyhyrau yn ddŵr).

Y Manteision

Dyma rhai o fanteision yfed mwy o ddŵr:

1 – Rheoli a Cholli Pwysau

Mae yfed dŵr yn cynorthwyo wrth ddileu sgil-gynhyrchion braster a hefyd yn eich helpu i deimlo’n fwy llawn.Nid yn unig mae hyn yn gweithredu fel atalydd archwaeth naturiol, ond gall hefyd wella eich metaboledd.

Rydych hefyd yn llai tebygol o roi pwysau ymlaen trwy yfed rhyw ddau wydriad o ddŵr cyn bwyta yn hytrach na bwyta llawer o fara.

2 – Cadw’n rheolaidd

Gall dŵr helpu i atal rhwymedd. Mae’n helpu i dorri’ch bwyd i lawr fel bod eich ysgarthion  yn feddalach. Mae hefyd yn caniatáu amsugno maethol mwy effeithlon.

3 – Atal cur pen/pen tost

Mae yfed dŵr hefyd yn helpu i atal a lleddfu cur pen a achosir yn aml gan ddadhydradu.

Gall dadhydradu achosi’r ymennydd i gywasgu dros dro oherwydd colli hylif. Mae’r mecanwaith hwn yn achosi’r ymennydd i dynnu oddiwrth y benglog, gan achosi poen ac arwain at gur pen dadhydradu.

4 – Atal crampiau ac anafiadau

Gan mai dŵr yw 80% o’r cyhyrau mae dŵr yn iraid naturiol ar gyfer eich cyhyrau a’ch cymalau.

Trwy ddatblygu hydradiad iach, byddwch yn fwy hyblyg, yn llai tebygol o brofi ysigiad y ffêr a byddwch yn llai tebygol o fod mewn poen ar ôl yr ymarfer corff ffyrnig nesa!

5 – Atal Anadl Ddrwg

Yn aml mae anadl ddrwg yn arwydd clir o ddadhydradu. Yn ychwanegol i’r bwyd rydych chi’n ei fwyta, gall dadhydradu hefyd achosi anadl ddrwg. Mae yfed digon o ddŵr yn golchi i ffwrdd gronynnau bwyd sydd ar ôl a bacteria genau sy’n arwain at anadl ddrwg.

Faint ddylem ni fod yn yfed?

The benefit of drinking waterGallem fod wedi ysgrifennu llawer mwy o’r manteision iechyd ar gyfer yfed dŵr. Mae dŵr mor bwysig i’ch corff!

Ond er hynny, faint o ddŵr y dylech chi ei yfed?

Cyngor y GIG yw y dylem ni yn y DU fod yn yfed 1.2 litr o ddŵr bob dydd er mwyn atal dadhydradu.

Mae hynny’n cyfateb i tua chwech i wyth gwydriad y dydd.

Ar adegau poeth y flwyddyn, neu os ydych wedi bod yn chwysu, bydd angen i chi yfed mwy er mwyn digolledu’r hyn gollasoch.

Os hoffech fwy o gyngor ar yfed mwy o ddŵr, neu efallai yr hoffech ragor o wybodaeth am ddadhydradu yn gyffredinol, cysylltwch â ni neu gasglu rhywfaint o wybodaeth o’r dderbynfa.

Useful Links:

Find more information here: