Cyflenwadau Meddyginiaethau

Cafwyd sylw yn y wasg y wythnos hon am y meddyginiaethau y honnir iddynt gael eu gwrthod i glaf.

Rydym yn gwneud yn siŵr lle bynnag posib fod gan ein cleifion i gyd y meddyginiaethau sydd eu hangen arnynt.

Weithiau gyda meddyginiaethau arbenigol, dylai ymgynghorydd mewn ysbyty ysgrifennu’r presgripsiwn. Mae hyn er mwyn sicrhau bod ein cleifion yn cael eu cadw’n ddiogel. Fodd bynnag, mater gweinyddol yw hwn heb unrhyw newid i’n cleifion a gellir dal godi’r meddyginiaethau yn lleol, fel arfer.

Rydym yn ceisio sicrhau bod ein cleifion i gyd yn cael gwybod pryd fydd hyn yn digwydd, os fydd hyn yn effeithio ar unrhyw glaf byddwn yn eich galw o flaen llaw i drafod hyn. Mae’n ddrwg gennym os bydd y camau hyn yn achosi unrhyw bryder neu dryswch. Os oes unrhyw bryderon am eich meddyginiaeth eich hun, peidiwch oedi I gysylltu â ni.

Iechyd Bro Ddyfi