Newidiadau Pwysig I Wasanaethau Meddygon Teulu Iechyd Bro Ddyfi

Fel mae’n debygol y gwyddoch, mae cynnal gwasanaeth meddygon teulu llawn yn broblem ym Machynlleth ac yng Nglantwymyn ar hyn o bryd. Mae gennym ddwy swydd wag ar gyfer dau feddyg ond, er gwaethaf hysbysebu ledled y wlad, yn y Gymraeg a’r Saesneg, nid dderbyniwyd unrhyw geisiadau.

Nid yw’r sefyllfa yma yn un sydd yn unigryw i Bro Ddyfi, yn wir mae prinder meddygon teulu ar draws y DU  gyda meddygfeydd gwledig yn ei chael yn arbennig o anodd i ddenu meddygon.  Mae tua 20 o feddygfeydd wedi cau ledled Cymru yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, gyda mwy i ddod. Mae meddygon Iechyd Bro Ddyfi yn ymdrechu’n galed i sicrhau bod gofal cleifion yn cael ei ddiogelu yma.

Oherwydd yr amgylchiadau anodd hyn, rydym yn cynnig dau fesur, a ddisgrifir isod:

Rydym wedi medru cadw Meddygfa Glantwymyn ar agor, ond  gyda oriau agor llai. Bydd y feddygfa ar agor trwy’r dydd, ddydd Llun, bob dydd Mawrth a bore Iau. Byddwn ar gau ddydd Mercher a dydd Gwener. Bydd y cleifion gwaelaf sydd ag anawsterau gyda chludiant yn derbyn blaenoriaeth ac yn cael apwyntiadau yn y feddygfa agosaf at eu cartref. Rydym yn cydnabod bod hyn yn anghyfleus i staff a chleifion. Fodd bynnag, er mwyn sicrhau safonau meddygol diogel, nid oes gennym unrhyw ddewis. Adolygir hyn ym mis Medi 2018.

Bydd y feddygfa yn Machynlleth yn parhau â’i horiau agor presennol gan fod cyfran helaeth o’n cleifion yn byw yn agos i Fachynlleth.

Y mesur arall yw ‘system brys-bennu’ (Triage) . Mae hyn yn golygu, pan fyddwch chi’n  galw’r feddygfa, bydd dderbynnydd hyfforddedig yn gofyn ychydig o gwestiynau i chwi er mwyn asesu y ffordd orau i’ch helpu mor gyflym â phosib. Yna byddant yn eich cyfeirio, naill ai’n bersonol, neu dros y ffôn, at yr aelod mwyaf priodol o’r tîm meddygol. Bydd hyn yn dechrau ar y 13eg o Awst. Mae systemau brys-bennu a ddefnyddir mewn rhannau eraill o Gymru wedi gweld gwelliannau enfawr mewn boddhad cleifion, gyda mwy o gleifion yn cael eu gweld ac amseroedd aros ar gyfer apwyntiadau wedi byrhau.

Cymerwyd y ddau benderfyniad hyn ar y cyd â’r bwrdd iechyd lleol, sy’n ein cefnogi’n llawn.

Ymddiheurwn os oes unrhyw gleifion yn teimlo’n iddynt beido bod a’r wybodaeth lawn oherwydd  y newidiadau dros y misoedd diwethaf. Gallwn eich sicrhau ein bod yn ymladd i gadw (a gwella)’ch gwasanaethau iechyd. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon, cysylltwch â Lucy Cockram, Rheolwr y Practis.

Dr J Shaw, Dr L Hyde, Dr S Bradbury-Willis