Oriau Agor newydd Meddygfa Glantwymyn
Yn anffodus, oherwydd amgylchiadau annisgwyl, bydd cangen Glantwymyn, Iechyd Bro Dyfi yn dilyn oriau agor newydd o Ddydd Llun, Ebrill 9fed. Bydd y Feddygfa ar agor trwy’r dydd, Ddydd Llun, Dydd Mawrth a bore Iau. Adolygir hyn ym mis Medi 2018.
Er gwaethaf hysbysebu’n genedlaethol, yn y Gymraeg a’r Saesneg, nid ydym wedi cael unrhyw geisiadau gan feddygon teulu i ymuno â’n tîm
Mae gennym feddyg teulu ar absenoldeb mamolaeth a’r hyn o bryd, fydd yn ailymuno â ni ym mis Medi, felly byddwn yn adolygu’r penderfyniad anodd hwn yr adeg hynny.
Rydym yn deall fod hyn yn anghyfleus ac yn mynd i beri pryder i gleifion. Fodd bynnag, er mwyn sicrhau safonau meddygol diogel, nid oes gennym unrhyw ddewis, ac i ni, mae gofal ein cleifion yn hollbwysig.
Mae’r penderfyniad wedi’i wneud ar y cyd â’r Bwrdd Iechyd lleol, sy’n llwyr gefnogi’r penderfyniad.
Bydd ein meddygfa yn Machynlleth yn parhau â’i oriau agor presennol. Mae cyfran helaeth o’n cleifion yn byw o fewn cyrraedd Machynlleth. Er hynny, byddwn yn sicrhau bydd y cleifion gwaelaf sydd ag anawsterau gyda chludiant yn derbyn blaenoriaeth ac yn cael apwyntiadau yn y feddygfa agosaf at eu cartref.
Gobeithiwn y byddwch chi, ein cleifion, yn oddefgar ar yr adeg anodd hon, ac rydym yn addo byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am unrhyw ddatblygiadau newydd fel maent yn ddigwydd.
Diolch