Polisiau’r Practis
Polisiau’r Practis
Dewisiwch un o’r tabs isod i weld polisi’r practis.
Polisi Preifatrwydd
1.0 Cyflwyniad
Daw’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) i rym ar 25 Mai 2018, gan ddisodli’r Ddeddf Diogelu Data (1998).
Yn unol a thelerau’r GDPR newydd, mae angen hysbysiad preifatrwydd i esbonio i’n cleifion pa ddata personol sy’n cael ei ddal amdanynt, sut y caiff ei gasglu, ei brosesu a phwy sydd â mynediad iddo.
Mae angen i bob busnes sy’n casglu data am bobl gydymffurfio â deddfwriaeth Ewropeaidd GDPR a bydd angen parhau i gydymffurfio a hyn unwaith y bydd yr U.K yn gadael yr E.U.
Am gefndir llawn ar GDPR gweler gwefan GDPR yma. (https://www.eugdpr.org/)
2.0 Swyddog Rheoli Data a Diogelu Data
Enw Rheolydd Data | Iechyd Bro DDyfi |
Manylion Cyswllt | Canolfan Iechyd Machynlleth Forge Road Machynlleth Powys SY20 8EQ Ffôn: 01654 702 224
E-bost: contact@DyfiValleyHealth.org Gwefan: https://DyfiValleyhealth.org |
Swyddog Rheoli Data | NHS Information Service (NWIS) |
Manylion Cyswllt | Information Governance, Data Protection Officer Support Service, 4th Floor, Ty Glan-yr-Afon, 21 Cowbridge Road East |
3.0 Eich Data
3.1 Sut yr ydym yn casglu eich data
Rydym yn casglu eich data pan fyddwch yn rhoi’r wybodaeth bersonol angenrheidiol i ni yn wirfoddol wrth gofrestru i fod yn glaf yn Iechyd Bro Ddyfi, trwy’r Holiadur Cofrestru (14052018_v1) a Ffurflen Gofrestru GIG Cymru.
3.1.1 Gwybodaeth a gasglwyd gan Adnoddau Eraill
Drwy gofrestru gyda’r Feddygfa yn Adran 3.1 rydych yn caniatau i’ch hanes meddygol o’ch meddygfa(au) blaenorol gael ei/eu (g)yrru atom i’r feddygfa. Mae darparu’r wybodaeth hon yn hanfodol er mwyn inni allu darparu gofal a thriniaeth feddygol personol.
Rydym yn aml yn cael gwybodaeth gan ysbytai, fferyllfeydd ac ymarferwyr meddygol eraill y byddwch chi eisoes wedi cyflwyno eich data personol iddynt.
3.2 Pa ddata yr ydym yn ei gasglu
Data a gesglir | Enw(au) Dyddiad geni Cyfeiriad Rhif(au) ffôn Cyfeiriad e-bost Eich hanes meddygol Pryderon Iechyd Cronig | Os ydych chi’n ofalwr neu’n cael eich gofalu Os oes gennych anabledd Eich gallu i gael mynediad i’r feddygfa Os oeddech chi yn y lluoedd arfog Hanes Meddygol y Teulu Ffordd o fyw (ysmygu / yfed) Grŵp Ethnig |
3.3 Pwy sydd a mynediad i’ch data
Dim ond aelodau penodol, hyfforddedig a gofynnol o dîm clinigol ac anghlinigol Iechyd Bro Ddyfi sydd â mynediad at eich data. Nid oes gan holl aelodau’r tîm fynediad at eich holl ddata – dim ond y tîm clinigol sydd a hynny. Weithiau, efallai y bydd angen i ni rannu’ch data er mwyn darparu’r driniaeth feddygol gorau i chi – gweler Adran 3.5.
Rydym bob amser yn ymdrin â’ch data personol mewn ffordd sy’n gyson â dyletswydd cyfrinachedd tîm y feddygfa a gofynion y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR). Byddwn hefyd yn cymryd pob cam rhesymol i ddiogelu eich data personol a storir mewn ffeiliau papur ac ar ein system electronig.
3.4 Sut yr ydym yn defnyddio eich data
Sut y defnyddir y data | Tîm Anghlinigol | Tîm Clinigol |
Gwneud Apwyntiadau Cynhyrchu Presgripsiynau Ffeiio Cofnodion Meddygol Yn Electronig Darparu Canlyniadau Prawf Anfon Nodyn Atgoffa Triniaeth Anfon Nodyn Atgoffa Clinig | I ddarparu triniaeth a gofal meddygol |
3.5 Rhannu eich data
Byddwn yn cadw gwybodaeth amdanoch yn gyfrinachol a dim ond yn datgelu unrhyw wybodaeth gyda thrydydd parti, os ydyw er eich lles chi i wneud hynny a phan yr ydym yn siŵr bod y sawl yr ydym yn rhannu gwybodaeth â hwy yn ymarferydd meddygol yr ydych eisoes wedi rhannu gwybodaeth bersonol a hwy. Er enghraifft:
- rhoi gwybodaeth gyswllt i ffisiotherapydd neu ysbyty sy’n dymuno cysylltu â chi ynglyn ag apwyntiad.
- Gyda’ch caniatâd ysgrifenedig neu ar lafar, byddwn yn rhannu gwybodaeth amdanoch chi gyda gofalwr.
- Gyda chaniatad penodol, gwybodaeth a rennir gyda chyfreithwyr a chwmnïau yswiriant.
- Ar gyflwyniad gorchymyn llys, bydd gwybodaeth yn cael ei rhannu gydag asiantaethau cyfreithiol a’r heddlu
Am fwy o enghreifftiau ar sut y gallwn rannu eich gwybodaeth, siaradwch ag un o’n tīm anghlinigol a all roi cyngor addas a penodol.
3.6 Pa mor hir rydym yn cadw eich data
Byddwn yn cadw’ch cofnodion papur ac electronig (ysbyty / clinig) cyn belled â’ch bod yn glaf yn y feddygfa.
Pan fyddwch chi’n gorffen eich amser gyda’r Feddygfa, bydd y cofnodion hyn yn cael eu dychwelyd i’r Partneriaeth Cydwasanaethu a dilyn canllawiau’r GIG.
Bydd y Feddygfa yn archifo gwybodaeth a gedwir ar ein system glinigol sy’n ymwneud ag ymgynghoriadau, imiwneiddiadau, hanes meddygol a rhagnodi.
3.7 Lleoliad eich data
Mae eich data wedi’i storio’n ddiogel a’i leoli ar ein systemau cyfrifiadurol, sy’n cael eu rheoli gan Wasanaeth Gwybodaeth GIG Cymru. Am wybodaeth benodol ar sut mae eich data yn cael ei storio’n electronig, cysylltwch â hwy trwy glicio yma. (http://www.wales.nhs.uk/nwis/page/52504)
Pan fo’r angen, rydym hefyd yn storio copļau papur o’ch cofnodion meddygol. Cedwir y cofnodion hyn mewn lleoliad diogel sy’n dilyn canllawiau deddfwriaethol perthnasol.
- Hawliau Cleifion (Goddrych Data)
Os hoffech chi weithredu ar unrhyw un o’r hawliau goddrych data canlynol, ysgrifennwch at Reolwr y Practis, Canolfan Iechyd Glantwymyn, Cemmaes Road, Machynlleth, Powys, SY20 8LB.
4.1 Yr Hawl i gael eich hysbysu
Mae’r Polisi Preifatrwydd hwn yn eich hysbysu o’ch hawliau. Gweler y fersiwn ddiweddaraf ar Wefan Iechyd Bro Ddyfi ac o fewn y feddygfa. Bydd fersiynau newydd yn cael eu diweddaru ar-lein ac ar gael ar gais.
4.2 Hawl i Fynediad i’ch Data
Mae GDPR 2018 yn rhoi’r hawl i chi gael mynediad at ddata personol penodol yr ydym yn ei ddal amdanoch chi. Cyfeirir at hyn fel cais mynediad goddrych. Byddwn yn ymateb yn brydlon ac o fewn o leiaf un mis calendr o’r dyddiad derbyn y cais a’r holl wybodaeth angenrheidiol yn ysgrifenedig oddi wrthych.
4.3 Yr Hawl i Gywiro
Os ystyrir yn briodol, gall clinigydd wneud cofnod ôl-weithredol os oes gennych bryderon ynghylch cywirdeb eich cofnod clinigol.
Bydd gennych hefyd yr hawl i gael data personol anghyflawn wedi’i gwblhau, os oes angen, trwy ddarparu datganiad atodol wedi’i lofnodi a’i ddyddio. Byddwn yn ymateb i’r cais i gywiriad o fewn o leiaf un mis calendr.
4.4 Yr hawl i ddileu
Mae gennych yr hawl i ofyn am ddileu gwybodaeth bersonol yn ymwneud â chi os nad yw yn berthnasol mwyach. Ni allwn ddileu data a allai gyfaddawdu’ch gofal meddygol yn y presennol neu yn y dyfodol.
4.5 Hawliau Data Cludadwy
Gallwn ymateb i gais gennych am gyflenwi’ch gwybodaeth bersonol mewn fformat electronig, ac yna mae gennych chi’r hawl i’w drosglwyddo i rywle arall.
4.6 Hawliau Awtomeiddio
Mae gan gleifion yr hawl i beidio â bod yn destun penderfyniad yn seiliedig ar brosesu awtomataidd. Mae gan gleifion yr hawl i (a) gael ymyrraeth ddynol, (b) mynegi eu safbwynt, a (c) cael esboniad o’r penderfyniad a’i herio.
5.0 Cwestiynau, Ymholiadau a Chwynion
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu ymholiadau nad yw’r Polisi Preifatrwydd hwn wedi mynd i’r afael â hwy, neu os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch a sut rydym yn defnyddio’r wybodaeth bersonol sydd gennym, ysgrifennwch at:
Canolfan Iechyd Machynlleth
Ffordd Forge
Machynlleth
Powys
SY20 8EQ
Termau ac Amodau’r Practis
Polisi Trais
Mae’r CIG yn gweithredu polisi goddef dim o ran trais a cham-drin a mae hawl gan y practis i dynnu cleifion treisgar oddiar eu rhestr ar unwaith er mwyn diogelu y staff, cleifion a phobl eraill. Yn y cyd- destun yma mae trais yn golygu trais corfforol cyflawnedig, ymddygiad bygythiol, neu gam-drin geiriol.Os digwydd hyn byddwn yn hysbysu’r claf yn ysgrifennedig ei bod yn cael ei tynnu oddiar y rhestr ac yn cofnodi yn ei cofnod meddygol y rheswm/au a’r amgychiadau dros wneud hyn.
Hygyrchedd
Gwefan
Mae tudalennau ein gwefan wedi’u cynllunio fel y gallwch newid arddull, maint a lliw y ffont a ddefnyddir, yn ogystal â’r lliw cefndirol. Os hoffech wneud hynny, gweler y canllawiau isod.
Addaswch y gosodiadau yn:
Cymorth pellach
Os ydych:
- Yn cael problemau wrth weld y sgrin
- Ei chael hi’n anodd defnyddio’r llygoden neu’r bysellfwrdd
- Angen help gyda iaith neu ddarllen gwefannau
yna rydym yn argymell eich bod yn ymweld â gwefan y BBC, My Web My Way, sy’n rhoi cyngor ar sut i wneud eich cyfrifiadur yn haws ei ddefnyddio, boed yn ddefnyddiwr Windows, Mac neu Linux.
Polisi Hiliaeth, yma...
Iechyd Bro Ddyfi
Mae Iechyd Bro Ddyfi wedi ymrwymo i ddarparu gofal iechyd gorau posibl i'r gymuned.
© 2021 Dyfi Valley Health