Wyddoch chwi, y ffaith yw, ar ôl canser yr ysgyfaint, fod canser y coluddyn yn lladd mwy o bobl ym Mhrydain bob blwyddyn nag unrhyw fath arall o ganser. Hynny yw – mae’n lladd mwy o bobl na chanser y fron; mae’n lladd mwy o bobl na chanser y prostad; ac mae’n lladd mwy o bobl na chanser ceg y groth. Ac eto, bydd yn aml yn cael ei anghofio ac anaml y bydd rhywun yn siarad amdano …Ond y gwir yw, bydd 1 o bob 20 o bobl yn ei gael yn ystod eu hoes.

Yn y blog hwn byddwn yn ymchwilio sut y gallwch gael eich sgrinio am ganser y coluddyn, y mathau o sgrinio, a phryd y caiff ei gynnig…

Sut allwch chi gael eich sgrinio am ganser y coluddyn?

Fel y mwyafrif o weithdrefnau sgrinio, y nod yw canfod clefyd cyn i’r symptomau ymddangos. Ar gyfer canser, gallai hyn olygu ei ddal yn gynharach, pan fydd triniaeth yn cynnig gwell siawns o wella.

Mae’r mwyafrif o ganserau’r coluddyn yn gwaedu i ryw raddau. Profwyd bod prawf arbennig FOB (prawf gwaed cudd yn yr ysgarthion) sy’n canfod ychydig bach o waed yn ysgarthion y coluddyn yn canfod canserau yn gynharach.

Mathau o brofion sgrinio …

Yn y DU, cynigir dau fath o weithfrefnau:

Pryd mae’n cael ei gynnig?

  • os ydych chi’n 55 oed, cewch eich gwahodd yn awtomatig i gael prawf sgrinio’r  coluddyn a sgôp (Sigmoidosgopi Hyblyg) un tro, os yw’n cael ei gynnig yn eich ardal chi
  • os ydych chi rhwng 60 i 74 oed byddwch yn cael eich gwahodd yn awtomatig i wneud y prawf sgrinio cartref bob 2 flynedd
  • os ydych chi’n 75 oed neu’n hŷn, gallwch ofyn am becyn profi cartref bob 2 flynedd trwy ffonio’r llinell gymorth sgrinio canser y coluddyn yn rhad ac am ddim ar 0800 707 60

Ond cofiwch- faint bynnag fo eich oed; os ydych chi’n poeni am hanes teuluol o ganser y coluddyn neu os oes gennych y symptomau hyn (https://www.nhs.uk/conditions/bowel-cancer/symptoms/), cysylltwch a ni i wneud apwyntiad.

Dolenni Defnyddiol: