Sut i Atal Strôc?

Gwyddom fod strôc yn salwch sydyn a dinistriol – ond nifer fach o bobl sy’n  ymwybodol o’i effaith ehangach. Yn ôl y Gymdeithas Strôc  (http://stroke.org.uk), mae tua 150,000 yn cael eu taro â strôc yn y DU bob blwyddyn. Mae hynny’n fwy nag un bob pum munud!

Yn anffodus, mae strôc yn un o’r afiechydon hynny lle mae’r atal, er yn aml yn anodd, yn llawer gwell na’r canlyniadau …

I ddechrau, beth yw strôc?

Beth yw strôc?

Fel pob organ yn y corff, mae’r ymennydd angen yr ocsigen a’r maetholion a ddarperir gan y gwaed i weithio’n iawn. Os yw’r cyflenwad gwaed wedi’i gyfyngu neu ei atal, mae celloedd yr ymennydd yn dechrau marw. Gall hyn arwain at anaf i’r ymennydd, anabledd ac o bosib, marwolaeth.

Mae dau brif achos:

  • Strôc Ischaemaidd – Mae hyn yn digwydd pan fydd clot gwaed yn rhwystro rhydweli i’r ymennydd. (dros 85% o achosion).
  • Strôc Waedlifol – pan fydd  pibell waed sy’n cyflenwi’r ymenydd yn rhwygo.

Gall rhai cyflyrau penodol gynnyddu’r tebygoliaeth o gael strôc,gan gynnwys:

  • Gwasgedd gwaed uchel (gorbwysedd)
  • Colesterol uchel
  • Ffibriliad atrïaidd
  • Diabetes (Clefyd Siwgr)

Sut i atal strôc
Nid oes ffordd hawdd i fynd o’i chwmpas. Os ydych mewn perygl uwch o gael strôc, bydd yn rhaid i chi wneud newidiadau mawr i’ch ffordd o fyw – o bosib neiwidadau yr ydych wedi bod yn eu hosgoi ers cryn amser?  Dyma rai pethau y mae angen i chi eu gwneud:

1.    Gostwng pwysedd gwaed

Ceisiwch wneud y canlynol i ostwng eich pwysedd gwaed:

  • Bwyta llai o halen – llai na hanner llwy de y dydd
  • Osgoi bwydydd colesterol uchel, megis bwydydd cyflym/pryd -ar -glud, hufen iâ, caws, ac ati
  • Bwyta yn iach – eich ffrwythau a’ch llysiau “5-y-dydd”.

2.    Colli pwysau

Mewn theori mae’n syml: bwyta llai, bwyta’n iach a gwneud mwy o bethau egnïol. Sydd yn ein harwain at  bwynt 3:

3.    Ymarfer yn rheolaidd a chadw’n heini

Ceisiwch ymarfer ar lefel gymedrol am bum niwrnod yr wythnos am 30 munud y dydd. Os nad ydych chi’n gwybod y ffyrdd gorau o fod yn egnïol, darllenwch ein blog ar sut i gychwyn arni: https://www.dyfivalleyhealth.org/cy/sut-i-ddechrau-ymarfer-corff-a-chadwn-heini/

Awgrymiadau eraill;

  • Parcio’r car ychydig pellach i ffwrdd o’r archfarchnad – er mwyn cerdded chydig mwy.
  • Cerdded fyny’r grisiau yn hytach na chymryd y lifft
  • Mynd am dro i fan tawel: i’r parc neu i’r traeth ayyb.

4.    Yfed alcohol yn gymhedrol

Os ydych yn yfed alcohol yna gwnewch yn gymedrol:

5.    Rhoi’r gorau i ysmygu

Mae ysmygu yn achosi’r rhydwelïau i gulhau ac yn gwneud y gwaed yn fwy tebygol o geulo (clotio). Mae’n trwchu’r gwaed ac yn cynyddu faint o blac sy’n cronni yn y rhydwelïau.

Mae llawer ffordd i roi’r gorau i ysmygu.Rydym wastad yn barod i’ch helpu trwy gynnig cyngor, cefnogaeth a gwybodaeth- siaradwch a rhywun yn y feryllfa neu gyda un o’r nyrsus.

Fel mân cychwyn, darllenwch  arweiniad GIG (https://www.nhs.uk/live-well/quit-smoking/10-self-help-tips-to-stop-smoking/).

Adnabod symptomau ac arwyddion strôc

Mae arwyddion a symptomau strôc yn amrywio o un person i’r llall, ond fel arfer maent yn ymddangos yn sydyn.

Gan fod gwahanol rannau o’ch ymennydd yn rheoli gwahanol rannau o’ch corff, bydd eich symptomau’n dibynnu ar y rhan o’r ymennydd sy’n cael ei effeithio a maint y difrod.

Gellir cofio’r prif symptomau strôc gyda’r gair F.A.S.T:

  • Face – Gwendid yn yr wyneb – ydy ‘r wyneb wedi disgyn i un ochr? All y person wenu? A yw’r geg neu’r lygad wedi syrthio?
  • Arms – Gwendid yn y fraich –  ni all y person godi’r ddwy fraich hyd at ei ysgwyddau a’u dal yno oherwydd gwendid mewn un fraich.
  • Speech -Problemau lleferydd – ni all y person siarad yn glir neu o gwbl er iddynt ymddangos yn effro.
  • Talk – Amser i ffonio 999 yn syth os gwelir unrhyw un o’r arwyddion neu symptomau yma.

Mae’n bwysig fod pawb yn ymwybodol o’r arwyddion a symptomau yma, enwedig os ydych yn byw gyda, neu ofalu am, rhywun sydd mewn grŵp risg uchel, megis yr hen, neu’n dioddef  hefo diabetes neu bwysedd gwaed uchel.

Os ydych angen cymorth gyda unrhyw un o’r pwyntiau yn y blog, yna cysylltwch a ni (LINK) a byddwn ond yn rhy barod i’ch helpu.

Dolenni Defnyddiol: