Sut i Gofrestru â Fy Iechyd Ar-lein
To download these instructions, click here…
Mae cofrestru â Fy Iechyd Ar-lein (My Health Online) (MHOL) yn hawdd ac yn cynnig llawer o fanteision i chi, gan cynnwys:
- Gweld crynodeb o’ch cofnod meddygol
- Cyflwyno cais am ailbresgripsiwn
- Trefnu a chanslo apwyntiadau ( ar gael yn fuan)
- Gwirio eich manylion
Cofrestru ar gyfer Fy Iechyd Ar-lein
Cam 1 – Profi Hunaniaeth
Efallai ein bod wedi’ch adnabod ers blynyddoedd, ond ar gyfer diogelwch data, mae angen i ni gael prawf o bwy ydych. Dewch i’r dderbynfa gyda:
- Prawf adnabod (yn ddelfrydol â llun arno -pasbort neu drwydded gyrru).
- Eich cyfeiriad e-bost.
COVID-19 UPDATE: Do not come to the surgery with ID. Instead we ask you to email contact@dyfivalleyhealth.org with your DOB, registered address, and NHS No. Once received and confirmed we will register you for My Health Online.
Cam 2 – Llythyr a Manylion Cofrestru
Unwaith y byddwch wedi profi pwy ydych, bydd y derbynnydd yn cael mynediad i’ch cyfrif ac yn eich cofrestru gydag MHOL.
Byddwch wedyn yn derbyn llythyr (wedi’i argraffu a / neu ei anfon i’ch cyfeiriad e-bost). Mae’r llythyr hwn yn cynnwys y wybodaeth bwysig ganlynol:
- Rhif Adnabod y Practis
- Rhif Adnabod Mynediad
- Allwedd Cyswllt Cyfrif neu PIN
Byddwch angen y wybodaeth yma ar gyfer y camau nesaf…
Cam 3 – Creu eich Cyfrif
Ewch i’r dudalen we yma: https://www.myhealthonline-emisweb.wales.nhs.uk/account/login?ReturnUrl=%2F
Cliciwch ar y ddolen create your account here/creu eich cyfrif yma.
Ar y “Dudalen Gofrestru” nesaf, gofynnir i chi “Ydych chi wedi derbyn llythyr cofrestru o’ch practis?” – Cliciwch YDW/YES
Gofynnir i chwi wedyn nodi Rhif Adnabod y Practis, eich Rhif Adnabod Mynediad a’ch Rhif PIN o’r llythyr a gawsoch / anfonwyd yng Ngham 2. Llenwch y rhain i mewn a chliciwch “NESAF/NEXT”…
Ar y Dudalen Gofrestru nesaf, gofynnir i chi am eich:
- Cyfenw
- Dyddiad Geni
Mae angen i’r rhain gyfateb i’r hyn sydd gennym ar ein system.
Yna, crëwch gyfrinair. Cliciwch “Nesaf/Next”…
Byddwch wedyn yn cael eich cyfeirio i’r Dudalen Gofrestru isod:
Gwnewch y canlynol:
- Creu Enw Defnyddiwr i’ch hun (bydd hyn yn ei gwneud yn haws mewngofnodi yn ddiweddarach)
- Ychwanegwch y cyfeiriad e-bost a ddefnyddiwyd gennych yng Ngham 1 ac ychwanegwch rif ffôn symudol.
- Meddyliwch am ddau gwestiwn diogelwch
- Cliciwch Nesaf/Next…
Os caiff ei greu’n llwyddiannus byddwch yn derbyn eich manylion mewngofnodi!
GWNEWCH NODYN O’CH ENW DEFNYDDIWR (Username) neu RHIF ADNABOD Y PRACTIS (Practice ID) a’ch RHIF ADNABOD MYNEDIAD (Access ID)
Cliciwch “Mewngofnodi/Sign In”…
Cam 4 Mewngofnodi
Os gwnaethoch greu Enw Defnyddiwr, cliciwch y blwch “Mae gennyf enw defnyddiwr/I have a username”. Llenwch y ffurflen gyda’ch enw defnyddiwr a chyfrinair.
Os nad oes Enw Defnyddiwr gennych yna nodwch Rif Mynediad y Practis (Practice Id) a’ch Rhif Adnabod Mynediad (Access Id). yn ogystal â’r cyfrinair a grëwyd gennych.
Rydych nawr wedi cyrraedd Dangosfwrdd Fy Iechyd Ar-lein!