Sut i Osgoi Diabetes

Mae’r nifer o bobl sydd â diabetes yn cynyddu yn y DU. Yn y pum mlynedd diwethaf, mae’n frawychus meddwl fod nifer y bobl sy’n dioddef o ddiabetes ym Mhrydain wedi codi bron 700,000!

Amcangyfrif bod tua 3.7 miliwn o bobl yn ddiabetig yn y DU heddiw.

Beth yw Diabetes?

Cyflwr hir- dymor yw Diabetes/Clefyd Siwgr sy’n cael ei achosi gan ormod o glwcos (siwgr) yn y gwaed. Yr hormone, insiwlin, a gynhyrchir gan y pancreas, sydd yn gyfrifol am reoli faint o glwcos sydd yn eich gwaed.
Ceir dau fath o ddiabetes, yn ddibynnol ar faint o inswlin y mae eich pancreas yn gynhyrchu:

  • Math 1 (Type 1) – pan nad yw’r pancreas yn cynhyrchu DIM insiwlin o gwbl
  • Math 2 (Type 2) – pan na fydd y corff yn cynhyrchu digon o inswlin iddo weithio’n iawn, neu pan na fydd celloedd y corff yn adweithio i inswlin.

Beth yw’r symptomau?

Gweler grynodeb o symptomau diabetes/Clefyd Siwgr isod:

  • teimlo’n sychedig iawn
  • pasio dŵr yn fwy na’r arfer, yn enwedig yn y nos
  • teimlo’n flinedig iawn
  • colli pwysau a cholli trymder y cyhyrau
  • toriadau neu glwyfau sy’n araf yn gwella
  • cosi o gwmpas y pidyn neu’r fagina, neu byliau mynych o’r llindag (thrush)
  • golwg aneglur

Ceir rhestr cyflawn o’r symptomau ar wefan y GIG Gwefan NHS:

Os ydych yn amau eich bod yn dioddef o’r symptomau yma yna gwnewch apwyntiad hefo Iechyd Bro Ddyfi! Rydym yma i’ch helpu!

Sut i Osgoi Diabetes

Mae’n amlwg dweud bod atal yn well na’r gwellhad (neu’r driniaeth barhaus yn yr achos diabetes). Dyma restr hawdd i’w dilyn o ffyrdd i osgoi diabetes.

  1. Rheoli’ch pwysau –  bydd lleihau braster y corff a thorri lawr ar siwgr a charbohydradau coeth (refined carbs) o’ch diet yn lleihau eich risg yn sylweddol!
  2. Yfwch ddŵr –  Amlwg tydi? Bydd hyn hefyd yn golygu eich bod hefyd yn yfed llai o ddiodydd ‘fizzy’ llawn siwgr!
  3. Stopio Ysmygu – os ydych yn ysmygu neu’n agored i lefelau uchel o fwg ail-law, rydych yn fwy, tebygol o ddatblygu cyflyrau iechyd difrifol…
  4. Bwyta’n iach – Yn syml (a rydych wedi clywed hyn dro ar ôl tro): torrwch lawr ar siwgr, bwyta mwy o ffibr, llai o garbohydradau a bwyta llysiau a ffrwythau ffres.
  5. Ymarfer Corff – Os ydych yn gwneud namyn dim neu ychydig iawn o weithgaredd corfforol pob dydd yna mae angen dechrau gwneud ymarfer corff yn rheolaidd.

Image Source

Siaradwch a’ch meddyg neu ymarferydd nyrsio yn Iechyd Bro Ddyfi, byddant ond yn rhy falch i roi mwy o fanylion am ddiabetes i chwi a’r ffyrdd gorau i’w osgoi. Am fwy o wybodaeth sut i’w osgoi gweler: