Sut i Ymdopi a Chlefyd y Gwair

Mae hi’n amser godidog o’r flwyddyn – yr adar yn canu, yr wyn yn prancio, y dyddiau’n hirach, yr haul yn disgleirio (chydig mwy), y gwenyn yn suo… a’r paill yn lledaenu!

Mae nifer fawr o bobl yn croesawu dechrau’r gwanwyn a’r haf yn eiddgar. Ond i’r rhai hynny ohonoch sy’n dioddef o glefyd y gwair (wyddoch chi fod 1 mewn 5 person yn dioddef yn y DU?) mae’n ddechrau cyfnod anodd!

Gall symptomau clefyd y gwair gynnwys:

  • Tisian a pheswch
  • Trwyn yn diferu neu drwyn llawn
  • Llygaid sy’n coch, yn cosi neu’n ddyfriog
  • Gwddw, trwyn neu glustiau yn cosi
  • Colli eich synnwyr arogleuo
  • Poen o gwmpas eich wyneb a’ch talcen
  • Cur pen/pen tost
  • Pigyn clust
  • Blinder

Os ydych yn dioddef o’r alergedd tymhorol hwn mae nifer o ffyrdd i’w wahardd neu i leihau ei effaith ar eich bywyd.

Beth sy’n achosi clefyd y gwair?

Alergedd i baill yw clefyd y gwair.

Gall fod yn, un o, neu gyfuniad o, baill coed, paill glaswellt neu baill chwyn. Y paill bach, ysgafn hwn,  sy’n cael ei chwythu gan y gwynt o blanhigyn i blanhigyn, sy’n anochel yn eich dal chi yn y mwyafrif o achosion o glefyd y gwair.

Pryd mae hi yn dymor y paill?

Y newyddion da, neu newyddion drwg,  ydy fod y tri prif math o baill yn blodeuo ar adegau gwahanol o’r flwyddyn. Gallwch ddioddef alergedd i un math o baill neu fod yn hynod anlwcus i ddioddef alergedd iddynt i gyd.

Yn gyffredinol, tymhorau y paill yw:

  • Paill Coed – Ganol Mawrth hyd Ganol Mai
  • Paill Glaswellt – Ganol Mai hyd Gorffennaf
  • Paill Chwyn – Mehefin hyd Medi

Yn anffodus does dim iâchad parhaol i glefyd y gwair a ni allwch ei atal yn llwyr. Beth bynnag, fe allwch leddfu’r symptomau.

Sut i drin clefyd y gwair:

GWNEWCH

  • rhoi ychydig o Vaseline (eli petrolewm) ar agoriadau’r trwyn i ddal gronynnau paill
  • gwisgo sbectol haul sy’n lapio o gwmpas eich pen er mwyn atal paill rhag mynd i’ch llygaid tra byddwch chi yn yr awyr agored
  • cael cawod a newid eich dillad ar ôl bod y tu allan i olchi’r paill oddi ar eich corff
  • aros yn y tŷ cymaint a phosib
  • cadw drysau a ffensestri ar gau cymaint a phosib
  • defnyddio sugnydd llwch yn rheolaidd a thynnu llwch â chlwtyn llaith
  • prynu hidlydd paill ar gyfer awyrellau (air-vents)
  • cadw golwg ar arolygon y tywydd
  • mynd i’r traeth

PEIDIWCH

  • a thorri glaswellt/gwair neu gerdderd arno
  • treulio gormod a amser  yn yr awyr iach/tu allan
  • cadw blodau ffres yn y tŷ
  • ag ysmygu na bod ynghanol mwg
  • sychu dillad y tu allan
  • ganiatau i anifieliad anwes fynd mewn ac allan o’r tŷ yn rhy aml
  • aros yn rhy hir mewn ardaloedd trefol sydd â llygredd uchel

Ceir mwy o gyngor ac awgrymiadau ar Allergy UK

Angen mwy o gymorth? Ewch i weld fferyllydd

Siaradwch â gweithiwr iechyd proffesiynol am fwy o wybodaeth a thriniaethau megis diferion gwrth-histaminiau, tabledi a chwystrelli trwynol. Ewch at fferyllydd.

Gellir casglu gwybodaeth pellach o Feddygfeydd Iechyd Bro Ddyfi. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud apwyntiad a’r feddygfa os yw’ch symptomau’n gwaethygu neu os nad yw’ch symptomau’n gwella ar ôl cymryd meddyginiaethau o’r fferyllfa.

Hay Fever - Pine Pollen