Nod y blog yma yw rhannu gwybodaeth am ein Ymarferwyr Gofal Brys (UCPs). Pwy ydyn nhw, beth maen nhw’n ei wneud a’u rôl o fewn y Feddygfa.

Rydyn ni am i chi ddeall pa mor bwysig ydyn nhw o fewn y tîm ac i’ch sicrhau eich bod yn y dwylo mwyaf diogel pan fydd gennych chi apwyntiad gyda nhw.

Uwch Ymarferwyr Parafeddygol (UCP )-Pwy ydy’n nhw?

Mae Hannah a Shane ill dau yn Uwch Ymarferwyr Parafeddygon hyfforddedig, cymwysedig a chofrestredig. Rhyngddynt, mae ganddynt dros 30 mlynedd o brofiad ymarferol yn y gwasanaeth Ambiwlans. Trwy weithio ar y rheng flaen maen nhw wedi gweld y cyfan!

Fel pe na baent yn ddigon cymwys,  er mwyn caniatáu iddynt weithio ym maes gofal sylfaenol, aeth y ddau ohonynt yn ôl i’r brifysgol ac ennill  eu Cymhwyster Ymarferydd.

Uwch Ymarferwyr Parafeddygol (UCP )- Beth yw eu gwaith?

O’u hamser yn gweithio fel Parafeddygon Uwch ar alwad, maent yn gymwysedig ac yn brofiadol wrth ddelio ag ystod eang o faterion a chwynion.

Maent yn rhan annatod o’r tîm clinigol yma yn Iechyd Bro Ddyfi ac yn gweithio ochr yn ochr â’r meddygon teulu, nyrsys practis, nyrsys ardal, Cymhorthwyon Gofal Iechyd (HCAs) ac Ymarferwyr Nyrsio Uwch i sicrhau bod anghenion cleifion yn cael eu diwallu a bod gofal meddygol yn cael ei ddarparu’n ddiogel ac yn brydlon.

Er y gall eich taith fel claf ddechrau gyda nhw, gallai fod yn rhan arferol o’r ddarpariaeth gofal ichi gael eich cyfeirio at Feddyg, neu aelod arall o’r tîm yn y practis. Weithiau, gall eich gofal gael ei ddarparu gan ymgynghorydd neu arbenigwr mewn gofal eilaidd a gallent drefnu atgyfeiriad ar eich rhan (os yw’n briodol).

Shane ac Hannah UCPs

Uwch Ymarferwyr Parafeddygol (UCP )- -Pam fo nhw yma?

Yn 2017, ffurfiwyd Iechyd Bro  Dyfi trwy uno dau bractis gwahanol sydd bellach yn cwmpasu ardal ddaearyddol eang ac amrywiol iawn.

O ganlyniad, mae Iechyd Bro Ddyfi wedi gorfod ehangu a newid y gweithlu er mwyn gallu diwallu anghenion cleifion.

Ni fyddai’r meddygon yn y practis yn gallu rheoli practis diogel heb ddefnyddio clinigwyr amgen.

Nod Iechyd Bro Ddyfi yw bod clinigwr yn cysylltu â chleifion sydd angen gofal meddygol cyn gynted ag y bo hynny’n briodol. Rydyn ni yma i geisio sicrhau bod hyn yn bosibl ac yn ddiogel.

Wrth drafod pwysigrwydd y gwaith y mae Uwch Ymarferwyr Parafeddygol (UCPs) yn ei wneud, mae Dr. Khurshid, Partner Meddyg Teulu diweddaraf Iechyd Bro Ddyfi yn ysgrifennu:

“Rydym yn hynod lwcus i gael gweithwyr meddygol proffesiynol mor alluog yn ein tîm!

Mae gallu galw ar brofiad dau Barafeddyg Uwch yn y Feddygfa i helpu cleifion Bro Ddyfi yn rhywbeth y dylem i gyd fod yn ddiolchgar iawn amdano ac yn falch ohono. ”