Y Ffliw – Ei Atal a’i Drin
Wrth i ni ffarwelio a thymor yr haf rydym yn croesawu tymor nad yw mor groesawgar – Tymor y Ffliw. Bydd yr erthygl yma o gymorth i chwi osgoi dal y ffliw a hefyd sut i’w drin eich hun os byddwch mor anffodus a’i ddal.
Beth yw’r Ffliw?
Mae’r ffliw yn salwch resbiriadol hynod heintus a achosir gan firws y ffliw. Mae’n fwyaf cyffredin yn ystod y gaeaf neu ddechrau’r gwanwyn (Tachwedd i Fawrth).
Mae symptomau yn cynnwys:
- Tymheredd uchel (twymyn) o 38C neu uwch
- Brifo drostoch
- Teimlo’n flinedig
- Peswch sych ar y frest
- Dolur gwddf
- Cur pen/pen tost
- Dim chwant bwyd
- Dolur rhydd neu boen stumog
- Cyfog a bod yn sâl
Gall pobl weithiau gamgymryd symptomau annwyd a’r ffliw, ond mae’r ffliw yn tueddu i fod yn fwy difrifol. Y prif wahaniaethau yw:
Y Ffliw | Annwyd |
---|---|
Ymddengys yn gyflym o fewn ychydig oriau | Ymddengys yn raddol |
Yn effeithio ar fwy na’ch trwyn a’ch gwddf yn unig | Yn effeithio ar eich trwyn a’ch gwddf yn bennaf |
Yn gwneud i chi deimlo’n ddiflas ac yn rhy flinedig i gario mlaen fel arfer | Yn gwneud i chi deimlo’n sâl, ond rydych chi’n iawn i gario mlaen fel arfer (mynd i’r gwaith ac ati). |
Sut i drin y Fliw
Nid oes ffordd hawdd drwyddo, bydd yn rhaid i chi ond pydru mlaen trwyddo– yn aml gallwch chi drin y ffliw heb fynd i weld eich meddyg teulu (sy’n peryglu’r lledaeniad ymhellach i eraill). Fel rheol, byddwch chi’n teimlo’n well o fewn ychydig dros wythnos.
I’ch helpu i wella dilynwch y canllawiau canlynol:
- Gorffwys a chysgu
- Cadw’n gynnes
- Cymryd tabledi parasetamol ac ibuprofen
- Yfed digon o ddŵr i osgoi dadhydradu
- Gall meddyginiaethau ffliw eich helpu – ond byddwch yn ofalus i beidio â defnyddio meddyginiaethau os ydych eisoes yn cymryd tabledi parasetamol a ibuprofen. Siaradwch â fferyllydd cyn rhoi meddyginiaethau i blant.
PWYSIG: Trefnwch ymgynghoriad ffôn a ni os oes gennych/ydych:
- Dymheredd uchel am gyfnod hir
- Ddim yn ymateb i barasetamol
- Yn crynu yn ddireolaeth
- A chyfradd calon cyflym a chwildod ar sefyll
- Ddim yn gallu yfed digon o hylifau i aros yn hydradedig
- Neu’n byw ar eich pen eich hun ac yn rhy sâl i ofalu amdanoch eich hun
Sut i osgoi’r Ffliw 
Mae yna nifer o bethau y gallwch eu gwneud i leihau’r risg o ddal y ffliw (a salwch tebyg). Golchwch eich dwylo’n rheolaidd er enghraifft.
Os ydych chi’n perthyn i grŵp sydd mewn perygl, byddwch chi’n gymwys i gael pigiad y ffliw, a dyma’r ffordd orau o’i atal. Mae’n fwy effeithiol yn erbyn y ffliw cyn i’r tymor ffliw ddechrau yn y gaeaf.
Yma yn Iechyd Bro Ddyfi mae gennym Glinig Ffliw arbennig yn gynnar ym mis Hydref a Tachwedd i’ch helpu i ymladd y ffliw.
Y newyddion da arall yw y gallech fod yn gymwys i dderbyn pigiad ffliw am ddim.
Siaradwch ag aelod o staff a gwnewch apwyntiad i’ch hun i’r Clinig Ffliw.