Ydy’r brechiad ffliw yn gallu rhoi y ffliw i mi?

Ydy’r brechiad ffliw yn gallu rhoi y ffliw i mi? Na fedr! Fedr o ddim rhoi ‘mini-dos’ o’r ffliw i chwi gan nad yw brechiad y ffliw yn cynnwys unrhyw feirws byw. Hwyrach bydd safle’r pigiad a’ch braich yn boenus am ddiwrnod neu ddau a gallwch ddioddef o dymheredd uchel ond onid yw hynny yn well o lawer na dioddef effeithiau difrifol ac ansicr y ffliw ei hun? 

NID annwyd drwg mo’r ffliw ond salwch resbiriadol heintus tu hwnt â achosir gan feirws. Fel annwyd, mae’n cael ei ledaenu trwy besychu a thisian. Fel rheol bydd oedolyn iach yn gwella o fewn tua wythnos. OND, gall fod yn salwch difrifol i’r henoed, merched beichiog, pobl a phroblemau resbiriadol/ysgyfaint neu imiwnedd a rhai plant.

Cynnigir y brechiad am ddim i’r rhai hynny sydd fwyaf mewn perygl o’r ffliw ac i ofalwyr mewn teuluoedd lle mae risg. Ni ellir gwarantu 100% na wnant ddal y ffliw ond mae tystiolaeth bendant y bydd yn helpu i chi ei osgoi a hefyd yn cyfyngu ar yr effeithiau os byddwch yn ei ddal.

Peidiwch a phoeni os ydych wedi methu’r clinigau Pigiad y Ffliw, gallwch ofyn i nyrs neu feddyg ei brechu ar ymweliad arferol. Gofynnwch os dymunwch gael trafodaeth am eich sefyllfa bersonol chi.

Am wybodaeth am y brechlyn ffliw chwistrell trwynol i blant gweler

“Beth y’ch chi’n chwistrellu fyny trwyn fy mhlentyn?”