Yr Eryr – Yr Hyn Ddylech Wybod

Mae Yr Eryr  yn haint a achosir gan y firws varicella-zoster, sef yr un firws sy’n achosi Brech yr Ieir  (Chickenpox). Hyd yn oed wedi i chwi wella o Frech yr Ieir, gall y firws fyw yn eich system nerfol am flynyddoedd cyn ailysgogi fel Yr Eryr. Enw arall ar Yr Eryr yw ‘herpes zoster’.

Mae Yr Eryr yn haint sy’n achosi brech (rash) boenus. Os byddwch yn sylwi ar y canlynol, ceisiwch gyngor meddygol cyn gynted â phosib.

FFONIWCH 111 neu Siarad ac aelod o’n tîm.

Yr Eryr- Symptomau

Gall symptomau cyntaf Yr Eryr ymddangos fel:

  • teimlad gogleisiol (tingling) neu boen mewn rhan o’r croen
  • cur pen neu deimlo’n gyffredinol sâl
  • Bydd brech yn ymddangos ychydig ddyddiau’n ddiweddarach.

Fel rheol, mae’r Eryr yn ymddangos ar y frest a’r bol gan amlaf, ond weithiau gall ymddangos ar y wyneb, y llygad a’r organau cenhedlu.

Shingles rash

Fel rheol, mae’r frech eryr yn ymddangos fel brech boenus o bothelli llawn hylif ar eich croen, ar un ochr i’ch corff yn unig. Mae’n annhebygol mai yr eryr sydd arnoch os oes gennych frech ar y chwith a’r dde o’ch corff.

Pwy sydd mewn perygl o gael Yr Eryr?

Mae yna gamsyniad cyffredin na all y rhai sydd wedi cael Brech yr Ieir gael Yr Eryr. NID yw hyn yn wir. Gall Yr Eryr ddigwydd i unrhyw un sydd wedi cael Brech yr Ieir.  I gymhlethu pethau: ni allwch chi ddal Yr Eryr oddi wrth rywun sydd yn dioddef o Frech yr Ieir, fodd bynnag, GALL yr hylif ym mhothelli rhywun sydd â’r eryr achosi Brech yr Ieir trwy heintio rhywun sydd heb ei gael.

Fodd bynnag, gall rhai ffactorau olygu fod rhai pobl mewn mwy o berygl o gael Yr Eryr.

Mae ffactorau risg yn cynnwys:

  • bod dros 60
  • yn dioddef o glefydau sy’n gwanhau’r system imiwnedd, fel HIV, AIDS, neu ganser
  • fod wedi cael cemotherapi neu driniaeth ymbelydredd
  • yn cymryd cyffuriau sy’n gwanhau’r system imiwnedd, fel steroidau neu feddyginiaethau a roddir ar ôl trawsblannu organau

Yr Eryr a Beichiogrwydd

Os ydych chi’n feichiog ac yn cael Yr Eryr, nid oes perygl i’ch beichiogrwydd na’ch babi. Fodd bynnag, dylech gael eich cyfeirio at arbenigwr, oherwydd efallai y bydd angen triniaeth gwrthfirol arnoch.

What are the risks of shingles during pregnancy?

Pa mor hir mae Yr Eryr yn para?

Gall gymryd hyd at bedair wythnos i’r brech  wella. Gall eich croen fod yn boenus am wythnosau ar ôl i’r frech ddiflannu, ond fel arfer mae’n gwella mewn amser.

PWYSIG: Arhoswch gartref o’r gwaith neu’r ysgol os yw’r bothelli yn dal i ddiferu hylif ac ni ellir eu gorchuddio, neu hyd nes bod y brech wedi sychu.

Rydych chi’n ond yn heintus i eraill tra bod y frech yn  diferu hylif.

Gallwch orchuddio’r frech gyda dillad llac neu  orchudd di-ludiog (non-sticky dressing)

Sut i drin symptomau Yr Eryr

Gwnewch:

  • cymryd paracetamol i leddfu poen
  • cadwch y frech yn lân ac yn sych er mwyn lleihau’r risg o haint
  •  gwisgwch ddillad llac
  •  rhowch rhywbeth oer arno (bag o lysiau wedi’u rhewi wedi’u lapio mewn tywel neu glwt gwlyb) sawl gwaith y dydd

Peidiwch â:

  • peidiwch â gadael i orchudd neu blastr lynu i’r brech
  • peidiwch â defnyddio hufen gwrthfiotig – mae hyn yn arafu’r gwella

Brechu Rhag Yr Eryr

Mae brechlyn rhag Yr Eryr ar gael gan y GIG i bobl yn eu 70au. Mae’n helpu i leihau’ch risg o gael Yr Eryr.

Os cewch Yr Eryr ar ôl cael eich brechu, gall y symptomau fod yn llawer llai.

Gofynnwch i’ch meddygfa os ydych chi’n ddilys i dderbyn y brechlyn ar y GIG.

Dolenni defnyddiol