Iechyd Bro Ddyfi, Ysbyty Cymunedol Bro Ddyfi, Heol Maengwyn, Machynlleth, Powys, SY20 8AD
contact.w96011@wales.nhs.uk 01654 702 224Mae ein meddygon teulu yn darparu'r gwasanaeth meddygol ar gyfer yr 14 gwely cleifion mewnol yn yr ysbyty cymunedol ym Machynlleth. Mae hyn yn galluogi cleifion nad oes arnynt angen y lefel uwch o fewnbwn a gynigir mewn Ysbytai Cyffredinol Dosbarth i gael gofal yn nes at eu teuluoedd.
Rydym mewn trafodaethau cyffrous gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru a Bwrdd Iechyd Addysgu Powys am ddatblygiad yr ysbyty cymunedol. Gallai Canolfan Les flaenllaw fod ar waith yn gynnar yn 2018. Rydym yn gobeithio integreiddio gwasanaethau meddygon teulu lleol ag iechyd meddwl, gwasanaethau cymdeithasol a gwasanaethau menywod a phlant. Byddai hefyd yn gartref i glinigau cleifion allanol ymgynghorwyr, ffisiotherapi a chyfleusterau Pelydr X.
Rydym yn arbennig o awyddus i greu canolfan ar gyfer addysgu meddygaeth wledig. Byddai myfyrwyr a hyfforddeion yn dod o bob rhan o Gymru i ddysgu am yr arbenigedd unigryw a heriol hwn.