Ydych chi’n Gymwys i gael Brechlyn Ffliw Am Ddim?
Gall y ffliw achosi salwch difrifol a hyd yn oed arwain at farwolaeth ymhlith grwpiau agored i niwed gan gynnwys pobl hŷn, menywod beichiog a phobl â chyflwr iechyd chyfredol.
Mae rhai pobl yn fwy tebygol o ddatblygu cymhlethdodau ffliw a allai fod yn ddifrifol, fel broncitis a niwmonia. Felly argymhellir eu bod nhw’n cael brechlyn ffliw bob blwyddyn i’w hamddiffyn.
Cynigir y pigiad ffliw yn rhad ac am ddim ar y GIG i bobl sydd mewn perygl. Mae hyn er mwyn helpu i’w hamddiffyn rhag dal ffliw a datblygu cymhlethdodau difrifol.
Clinigau brechu rhag y ffliw
Bydd y clinigau brechu rhag y ffliw yn digwydd ar y dyddiau canlynol:
Mercher 20fed
Hydref
Mercher 27ain
Hydref
Mercher 3ydd
Tachwedd
Tachwedd
Mawrth 23ain
Tachwedd
Mawrth 30ain
Tachwedd
Clinigau ffliw babanod
Bydd y clinigau brechu rhag y ffliw babanod (chwistrell trwyn) yn digwydd ar y diwrnodau canlynol:
– Lawrlwythiad: Caniatâd ar gyfer brechiad y ffliw drwy chwistrell trwyn –
Mercher 20fed
Hydref
Mercher 27ain
Hydref
Mercher 3ydd
Tachwedd
Sut fydd y clinigau ffliw yn cael ei redeg?
Bydd y clinigau ffliw yn cael eu redeg yn debyg i sut oedd y clinigau brechu COVID-19 yn cael eu redeg.
- Byddwch yn cael amser penodol pan fyddwch yn gwneud eich apwyntiad- Gofynwn i chi gyrraedd ar eich amser penodol os gwelwch yn dda
- Pan fyddwch yn cyrraedd byddwch yn ffurfio llinell wrth y brif fynedfa. Fyddwch yn cael mynd i fewn pan fyddwch yn cyrraedd blaen y llinell.
- Unwaith yn yr Meddygfa, byddwch yn cael eich arwain at gadair yn yr ystafell aros- fydd pob cadair yn cael ei diheintio ar ôl pob claf
- Byddwch yn cael eich brechu gan y clinigydd nesaf ar gael
- Unwaith y byddwch wedi cael eich brechu byddwch yn gadael yr adeilad trwy’r drws ochr
Rheolau y clinigau ffliw
Mae’r ffordd yr ydem yn rhedeg y clinig ffliw wedi newid. O ganlyniad i COVID-19 rydem angen dilyn rheolau llym.
- Dewch a PPE eich hunain- gorchudd gwyneb neu mwgwd
- Cadwch at ymbellhau cymdeithasol bob amser
- Dim ond y claf efo apwyntiad i mynychu
- Cwech i’r toiled cyn cyrraedd- ni fyddwch yn gallu defnyddio’r toiledau yn y meddygfa
- Gwisgwch dillad sydd yn hawdd eu dynnu e.e. llawes byr efo côt.
- Unwaith yr ydech chi wedi cael eich arwain allan o’r meddygfa, mae angen i chi gadael y maes parcio i ysgoi tagfeydd
- Mae angen pob man parcio arnom! Peidiwch â gadael eich cerbyd am fwy o amser na’ch apwyntiad
- Peidiwch a bod yn sarhaus i’r staff! Mae’n ddiwrnod sy’n peri straen i bawb ac yr ydym yn gwneud ein gorau I helpu mewn cyfnod anodd.
Parcio cyfyngedig
Oherwydd y ‘marquees’ ar nifer uchel o gleifion yn mynychu’r meddygfa, fydd y parcio yn cynfyngedig ar y safle. Os yn bosib, fedrwch chi barcio rhywle arall a cherdded i’r meddygfa. Gallwch ddefnyddio maes parcio Ysbyty Bro Ddyfi os nad oes dim lle ar y safle.
Sut i bwcio
Byddwch yn gallu archebu o’r 15fed o Fedi. I bwcio eich apwyntiad ar gyfer y clinig ffliw:
Ffoniwch
01654 702 224
© 2021 Dyfi Valley Health