Beth y’ch chi’n chwistrellu fyny trwyn fy mhlentyn?

Does neb yn hoffi bigiad, waeth pa mor addfwyn y nyrs neu’r meddyg na pha mor dyner eu triniaeth ohonom. Pan glywn y geiriau, “Dim ond crafiad bach!” mae rhywun yn dal i fferru!

Dyna pam fod y brechlyn ffliw chwistrell trwynol i blant yn driniaeth mor anhygoel! Chwistrelliad bach sydyn fyny’r trwyn a maent wedi eu hamddiffyn rhag effeithiau difrifol y ffliw. 

Yn union fel pigiad y ffliw i oedolion nid yw’n achosi ‘mini-dos’ o ffliw. Ychydig iawn o sgil-effeithiau sydd iddo – hwyrach bydd y trwyn yn rhedeg am ddiwrnod neu ddau (ond be sydd yn wahanol am hynny?).

Mae’n debyg i chwi dderbyn llythyr am y brechlyn chwistrellu gan y nyrs ysgol a byddwn yn annog pawb sydd a phlentyn i’w roi i’w plant. Mae ar gael ar gyfer plant rhwng dwy a thair oed  ynghyd a plant ysgol Blwyddyn 1-4. Yn y dyfodol bydd y rhaglen yn cael ei hymestyn i gynnwys plant o bob oed. Os yw’ch plentyn yn derbyn addysg gartref, does dim rhaid poeni, cysylltwch a’r Nyrs Bractis i drefnu “diwrnod chwistrellu”.

Efallai fod o yn syndod bod plant mewn mwy o berygl  o’r ffliw ond os oes ganddynt broblemau resbiriadol/ysgyfaint neu imiwnedd gall effeithiau cyfnod o ffliw fod yn ddifrifol. Cysylltwch a’r fedygfa am fwy o wybodaeth.

Am fwy o wybodaeth am y brechiad ffliw i oedolion gwelwch “Ydy’r brechiad ffliw yn gallu rhoi y ffliw i mi?”