Rydym yn falch o gyhoeddi mai ar wythnos y 24ain Ebrill y byddwn yn dechrau symud o’n safle presennol yn Forge Road, i’r safle Iechyd a Llesiant (Ysbyty Gymunedol Bro Ddyfi) newydd ar draws y ffordd, gyda’r nod o agor yn swyddogol yn ein lleoliad newydd ar ddydd Mawrth 2il o Fai.  Bydd mynediad i’n practis drwy brif fynedfa’r ysbyty.

Pethau pwysig i’w nodi, a gofynnaf ichi gynnwys pob dyddiad yn eich dyddiaduron. Gofynnwn hefyd i chi rannu’r wybodaeth hon gyda ffrindiau a chymdogion. Yn ystod yr wythnos hon:

  • Ni fydd  ein rhif ffôn yn newid ac mi fydd yn cael ei ateb fel arfer 
  • Dim ond apwyntiadau brys fydd ar gael. Byddwn yn gweithio gyda thîm llai mewn nifer felly ystyriwch hyn pan fyddwch yn galw i ofyn am apwyntiad
  • Bydd dim modd casglu meddyginiaethau arferol – gallwn roi mwy i chi er mwyn sicrhau bod gennych ddigon o gyflenwad. Cofiwch wirio eich meddyginiaethau a’ch dyddiadau a mynd ati i archebu unrhyw beth ychwanegol o ddiwedd mis Mawrth, hyd at wythnos 10 Ebrill.
  • Dim ond meddyginiaethau brys/acíwt fydd yn cael eu cyflenwi
  • Ar gyfer diweddariadau o ddydd i dydd – cadwch olwg ar ein tudalen Facebook neu bosteri ar ein drysau, ond cofiwch ein ffonio os nad ydych yn siŵr am leoliadau apwyntiadau dyddiol ac ati
  • Bydd ein huned mân anafiadau ar gael tan 18:30 ar Iau 27ain Ebrill ar yr hen safle. Yna, rydyn ni’n gobeithio agor ar y safle Iechyd a Llesiant o 8am ddydd Gwener 28 Ebrill, ond ffoniwch ni cyn cychwyn er mwyn sicrhau eich bod yn defnyddio’r lleoliad cywir. Yn ogystal, gellir dod o hyd i ddiweddariadau ar bosteri ar y drws neu ar Facebook.
  • Bydd ein fferyllfa ar gau o 12:00 Mer 26ain Ebrill. Bydd cleifion yn cael eu cyfeirio at Fferyllfa Rowlands ar gyfer meddyginiaethau undydd/brys wedi hynny. Yna byddwn yn ail agor am 8am ddydd Iau 27ain Ebrill ar y safle Iechyd a Llesiant newydd.
  • Yn ystod yr wythnos hon gofynnwn i chi gerdded i’r feddygfa os yn bosib. Bydd rhai mannau parcio ar gau er mwyn caniatáu mynediad i’r cwmni symud,  felly bydd parcio’n gyfyngedig.

Unrhyw broblemau ar unrhyw adeg, ffoniwch y practis ar 01654 702224 neu anfonwch e-bost at contact.w96011@wales.nhs.uk