Sut i Osgoi Llosg Haul a Niwed Haul

Rydym wedi bod yn ffodus yn ein tywydd yn ddiweddar, gyda’r DU yn mwynhau cyfnod hir o dywydd sych a heulog.

Wedi’r cyfan, peth anarferol yw i ni gael y cyfle i fwynhau diwrnod poeth a heulog, felly,  mae’n hawdd yn aml i ni anghofio’r perygl a’r niwed all yr haul achosi i’r corff– enwedig i’r croen.

Mae’n sefyllfa gyfarwydd… diwrnod hardd yn dod i ben a chi yn  fflamgoch ac yn wynebu’r boen a’r llosgi di-dor sy’n gysylltiedig â llosg haul  pan yn cymryd cawod neu baddon! Profiad cas!

Ond a bod yn ddifrifol, wyddoch chwi gall y math hwn o niwed haul mynych gynyddu’n ddirfawr y perygl o  ddatblygu afiechydon difrifol, megis cancr y croen?

Niwed Haul a Chancr y Croen

Yn ôl y Sefydliad Croen Prydeinig (British Skin Foundation), cancr y croen yw’r math mwyaf cyffredin o gancr yn y DU.

Bellach mae o leiaf 100,000 o achosion newydd yn cael eu diagnosio bob blwyddyn – ac mae’r niferoedd yn parhau i gynyddu.

Mae Ymchwil Cancr DU (Cancer Research UK) yn cytuno â hyn. Maent yn nodi bod tua 15,400 o achosion o gancr croen melanoma newydd yn y DU bob blwyddyn, dyna i chwi 42 bob dydd (2013-2015).

Gwnaeth astudiaeth gan  Gymdeithas Cancr America (American Cancer Society) ganfod “Gall llosg haul gynyddu eich risg o gancr y croen, gan gynnwys melanoma. Ond gall amlygiad i UV godi risg cancr y croen hyd yn oed heb achosi llosg haul. ”

Yn ogystal, maent yn cynghori y dylech fod yn arbennig o ofalus yn yr haul os ydych chi/gennych chi:

  • Wedi cael cancr y croen o’r blaen
  • Hanes teuluol o gancr y croen – yn enwedig melanoma
  • Lawer o fannau geni (moles),mannau geni afreolaidd neu rai mawr.
  • Frychni haul ac yn llosgi cyn cael lliw haul
  • Groen golau, llygaid glas neu wyrdd, neu wallt golau, coch neu frown golau.
  • Yn byw neu’n mynd ar wyliau i fannau uchel (mae cryfder pelydrau UV yn cynnyddu po uchaf yr ewch chi)
  • Yn byw neu’n mynd ar wyliau i hinsoddau trofannol neu isdrofannol
  • Yn gweithio tu mewn gydol yr wythnos ac yna yn cael amlygiad haul dwys ar benwythnosau
  • Yn treulio llawer o amser yn yr awyr agored
  • Yn dioddef rhai afiechydon awtoimiwn, megis lupus erythematosus systemig (SLE, neu lupus)
  • Yn meddu ar rai cyflyrau etifeddol sy’n cynyddu eich risg o gancr y croen, fel xeroderma pigmentosum (XP) neu syndrom carcinoma celloedd basal (syndrom Gorlin).
  • Yn meddu ar gyflwr meddygol sy’n gwanhau eich system imiwnedd, megis haint â HIV (y firws sy’n achosi AIDS)
  • Wedi cael trawsblaniad organ/nau
  • Yn cymryd meddygyniaeth sy’n lleihau neu’n llethu’ch system imiwnedd
  • Yn cymryd meddygyniaeth sy’n gwneud eich croen yn fwy sensitif i olau’r haul.

Ond peidiwch ac anobeithio!

Sut i Osgoi Niwed Haul

Os ydych chi’n ddi-hid ynglyn â sut rydych chi’n ymddwyn pan yn mynd i’r haul, neu’n fwy penodol, pan yn amlygu’ch hun i belydrau UV (mynd ar welyau haul ac ati) rydych mewn perygl uwch o niwed haul, yn enwedig os ydych a unrhyw un o’r pwyntiau a restrir uchod.

Fe allwch, fodd bynnag, ddal i fwynhau yn yr awyr agored ar ddiwrnod braf a heulog.

Dilynwch y cynghorion isod i’ch helpu arbed niwed haul:

Ewch i’r cysgod

Yn ystod amseroedd poethaf y diwrnod – rhwng 11 y bore a 3 y ‘pnawn- dylech  geisio cysgodi rhag yr haul. Gallwch gysgodi dan goeden, ymbarel haul neu adeilad.

Gwisgwch yn ddoeth

Dewisiwch ddillad sydd:

  • yn gorchuddio cymaint â phosibl o’r croen e.e. crysau â llewys hir a choleri uchel
  • wedi’u gwneud o ddeunyddiau gwehyddu agos megis cotwm, polyester / cotwm a lliain
  • os yn cael ei ddefnyddio ar gyfer nofio, wedi’u gwneud o ddeunyddiau megis lycra, sy’n dal i gadw’r haul ffwrdd hyd yn oed pan yn wlyb.

Defnyddiwch Eli Haul

Gwnewch yn siwr fod eich eli haul yn sbectrwm eang ac yn gwrthsefyll dŵr. Mae’r ffactorau SPF 30 neu SPF 50 yn cael eu hargymell. Dyma i chwi restr.Adolygwyd by The Independent.

Peidiwch a defnyddio eli haul er mwyn ymestyn yr amser y treuliwch yn yr haul a sicrhewch eich bod yn ei ddefnyddio bob amser gyda ffurfiau eraill o ddiogelwch hefyd.

Rhowch haen drwchus o eli haul ar groen sych, glan o leiaf 20 munud cyn mynd allan i’r haul a’i ail-roi’n rheolaidd pob dwy awr.

Gwisgwch Het

Mae het lydan yn amddiffyn yn dda yr wyneb, y trwyn, y gwddf a’r clustiau, sy’n safleoedd cyffredin ar gyfer cancr y croen.

Tydi cap neu ‘visor’ ddim yn cynnig yr un amddiffyniad.

Dewisiwch het wedi gwneud o ddeunyddiau gwehyddu agos – os gallwch chi weld trwyddi, yna gall pelydredd UV ddod trwyddi hefyd!

Efallai na fydd het yn eich amddiffyn rhag pelydriad UV adlewyrchiedig, dylech felly hefyd wisgo sbectol haul ac eli haul.

Spectol Haul

Gall gwisgo sbectol haul a het lydan gyda’i gilydd leihau amlygiad y llygaid i belydrau UV  at hyd at 98 y cant. Dylid gwisgo sbectol haul yn yr awyr agored yn ystod golau dydd.

I Orffen

Does dim byd gwell na chael mwynhau diwrnod braf a heulog! Ond, paratowch a mwynhewch mewn ffordd gyfrifol – yn enwedig os oes gennych blant. Am fwy o wybodaeth, gweler:

Bydd tîm Iechyd Bro Ddyfi ond yn rhy falch i roi cyngor i chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon am gancr y croen, cysylltwch â ni a/neu gwneud apwyntiad.