Mae Iechyd Bro Ddyfi, sy’n darparu Gwasanaethau Gofal Sylfaenol Meddygon Teulu i ryw 7,000 o bobl yng ngogledd orllewin Powys a’r cyffiniau, wedi wynebu nifer o heriau wrth gynnal gwasanaethau lleol diogel a chynaliadwy. Y llynedd, gwnaethon nhw gyflwyno cais ffurfiol i Fwrdd Iechyd Addysgu Powys am gyfuno’u holl wasanaethau ar eu safle yn Forge Road, Machynlleth a chau eu safle yng Nglantwymyn. Ar ôl cyfnod o ymgynghori, caewyd y safle yng Nglantwymyn ar 31 Gorffennaf 2019.

Yn dilyn adborth oddi wrth gleifion, treialwyd cynllun peilot Gwasanaeth Casglu Presgripsiynau ym mis Awst 2019, i helpu’r cleifion hynny a oedd eisiau parhau i gasglu eu presgripsiynau o Lantwymyn.

Roedd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn cefnogi’r fenter hon a’r bwriad, ar y dechrau, oedd ei rhedeg am dri mis tan 31ain Hydref 2019.

Mae’r gwasanaeth wedi’i adolygu bob mis, a gan mai prin oedd y rhai a fanteisiodd arno (roedd 27 wedi cofrestru ar ei gyfer, ac o’r rhain fe ddefnyddiodd 12 ohonyn nhw’r gwasanaeth unwaith, a defnyddiodd pedwar ohonyn nhw ef ddwywaith), mae Iechyd Bro Ddyfi a Bwrdd Iechyd Addysgu Powys wedi penderfynu rhoi terfyn i’r Gwasanaeth Casglu Presgripsiynau ar 31ain Rhagfyr 2019.

Mae Iechyd Bro Ddyfi byth a beunydd yn asesu sut i wella. Mae hyn yn cynnwys ehangu amrywiaeth y gwasanaethau sydd ar gael trwy frysbennu dros y ffôn a thrwy wasanaeth diogel Fy Iechyd Ar-lein sy’n caniatáu ichi archebu presgripsiynau amlroddadwy, gweld eich cofnodion meddygol sylfaenol a gweld eich manylion. Mae’r practis hefyd yn bwriadu cyflwyno ffyrdd digidol newydd i archebu apwyntiadau.

Mae Iechyd Bro Ddyfi’n edrych ymlaen at weithio’n agos â Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, yn ogystal â grwpiau cleifion i sicrhau bod y gwasanaeth gofal sylfaenol ym Mro Ddyfi’n parhau i ddarparu profiad o’r radd flaenaf i’w gleifion. Os y bydd unrhyw gleifion y mae hyn yn effeithio arnyn nhw’n parhau i’w chael hi’n anodd casglu presgripsiynau, mae croeso ichi gysylltu â Gwasanaeth Fferyllol Iechyd Bro Ddyfi neu Fwrdd Iechyd Addysgu Powys erbyn 31ain Ionawr 2020.